Ymddiriedolwyr

Mae CyFAN Cymru yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â ni wrth i ni baratoi cais i’r Comisiwn Elusennau.

Ein Cenhadaeth yw dod â phobl ynghyd i greu llwyfan i ail-ddylunio ac adnewyddu systemau bwyd a ffermio a defnydd tir yng Nghymru ac mae ein dogfen Gweledigaeth, Cenhadaeth a Nodau lawn yma.

Bydd yn rôl feichus, yn enwedig yn y camau cynnar, ac rydym yn awgrymu y dylai ymgeiswyr allu ymrwymo i:

  • Yn ystod y cyfnod sefydlu, hanner diwrnod bob pythefnos ar gyfer cyfarfodydd ac e-byst, ynghyd â dyddiau achlysurol ar gyfer cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb
  • Pan fydd y sefydliad wedi’i sefydlu, hyd at bedwar cyfarfod undydd wyneb-yn-wyneb y flwyddyn
  • Gweithio i hyrwyddo llwyddiant y sefydliad newydd ar bob cyfle, gan gynnwys presenoldeb yn y Gynhadledd, Sioe Frenhinol Cymru a digwyddiadau eraill, ac ymgysylltu â’r holl rwydweithiau priodol. (Ni fyddai angen i chi helpu gyda threfniadau ymarferol ar gyfer y Gynhadledd oni bai eich bod yn dymuno.)

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl ag un neu fwy o’r canlynol: sgiliau busnes ariannol neu gyllidebol, profiad o ddatblygiad sefydliadol (yn enwedig elusennau), a rhwydweithiau cryf ym mywyd cyhoeddus Cymru.

A allai hwn fod yn chi? Os oes gennych weledigaeth o system bwyd a ffermio mewn cytgord â chymunedau iach a ffyniannus, wedi’i phlethu ag amgylchedd naturiol cyfoethog, ac sy’n adlewyrchu cymeriad unigryw Cymru, cysylltwch â Jane Ricketts Hein a Jane Powell yn y lle cyntaf, am sgwrs anffurfiol: post@cyfancymru.wales

Gwirfoddolwyr

Gallwch help heb fod yn ymddiriedolwr. Rydym angen pobl i ysgrifennu, trefnu, cynghori – bydden ni wrth ein boddau yn clywed oddi wrthych.

Trustees

CyFAN Cymru is looking for new trustees to join us as we prepare an application to the Charity Commission.

Our Mission is to bring people together to create a platform to re-design and renew food and farming systems and land use in Wales and our full Vision, Mission and Aims document is here.

It will be a demanding role, particularly in the early stages, and we suggest that applicants should be able to commit to: 

  • During the set-up phase, half a day a fortnight for meetings and emails plus occasional days for in-person meetings
  • When the organisation is established, up to four one-day in-person meetings a year
  • Working to promote the success of the new organisation at every opportunity, including attendance at the Conference, Royal Welsh Show and other events, and engaging with all appropriate networks.  (You would not be required to help with practical arrangements for the Conference unless you wish to.)

We are particularly keen to hear from people with one or more of the following: business, financial or budgetary skills, experience of organisational development (especially of charities), and strong networks in Welsh public life.

Could this be you? If you have a vision of a food and farming system in harmony with healthy and thriving communities, interwoven with a rich natural environment, and reflecting the distinctive character of Wales, please contact Jane Ricketts Hein and Jane Powell in the first instance, for an informal discussion: post@cyfancymru.wales

Volunteers

You can help without being a trustee. We need people to write, organise, advise – we’d love to hear from you.